Rhif y ddeiseb: P-05-1007

 

Teitl y ddeiseb: Uno Yr Hôb a Chaergwrle i greu ward dau aelod yn Sir y Fflint.    

 

Geiriad y ddeiseb: Mae Adroddiad Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn argymell uno Kinnerton Uchaf a’r Hôb i greu ward dau aelod a bod Caergwrle, Llanfynydd a Threuddyn hefyd yn cael eu huno i greu ward dau aelod. Mae’r ail gynnig yn gwbl newydd ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad ar ei gyfer.

 

Mae gan gymunedau Yr Hôb a Chaergwrle hen hanes o weithio gyda'i gilydd ac maent yn cael eu hystyried yn un anheddiad bob ochr i Afon Alyn. Mae pobl ledled y byd yn gwybod am yr ymadrodd 'Live in Hope, Die in Caergwrle'. Mae'r ysbryd cymunedol rhwng y ddau bentref wedi chwarae rhan hanfodol wrth roi cefnogaeth i drigolion bregus yn ystod y pandemig Covid-19 a bydd yn hanfodol wrth adeiladu gwytnwch cymunedol ar ôl Covid-19. Mae'r trefniadau etholiadol arfaethedig yn bygwth tynnu'r gymuned i gyfeiriadau gwahanol a thanseilio cydlyniant cymdeithasol amlwg ar adeg dyngedfennol. Rydym yn annog y Senedd i roi pwyslais sylweddol ar gydlyniant cymdeithasol yn yr achos hwn wrth bennu ffiniau wardiau yn y dyfodol.


1.  Y cyd-destun

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) broses statudol ar gyfer cynnal adolygiadau o etholaethau a ffiniau yng Nghymru. Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“Y Comisiwn”) sy'n gyfrifol am gynnal yr adolygiadau hyn. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang, sy'n cynnwys cyhoeddi cynigion drafft ar gyfer pob sir yng Nghymru, mae'r Comisiwn yn cyhoeddi ac yn cyflwyno ei argymhellion terfynol i Weinidogion Cymru.

Mae argymhellion terfynol y Comisiwn wedyn yn ddarostyngedig i gyfnod o chwe wythnos pan ellir cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru. Yna, Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu sut i symud ymlaen, ac a ddylid gweithredu argymhellion y Comisiwn trwy Orchymyn. 

Dechreuodd yr adolygiad etholiadol ar gyfer Sir y Fflint ym mis Tachwedd 2018 pan gynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad cychwynnol. Cyhoeddwyd cynnig drafft ar gyfer y Trefniadau Etholiadol i Gyngor Sir y Fflint ym mis Awst 2019.

Yna cynhaliodd y Comisiwn gyfnod pellach o ymgynghori ar y cynigion drafft rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2019. Trafododd y Comisiwn y sylwadau a wnaed, cyn iddo gyhoeddi ei Argymhellion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol Sir y Fflint yn y dyfodol. Cyflwynwyd ei argymhellion i Weinidogion Cymru ar 16 Mehefin 2020.

Mae'r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

§    cyngor o 66 aelod, yn hytrach na’r 70 presennol. Mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol argymelledig o 1,809 o etholwyr yr aelod. 

§    42 ward etholiadol, yn hytrach na’r 57 o wardiau presennol.

§    23 ward aml-aelod yn y Sir sy'n cynnwys 22 ward etholiadol dau aelod ac un ward etholiadol tri aelod.

 

2.  Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn gorff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Gall y Comisiwn wneud gwaith ar ei liwt ei hun, ar gais prif gyngor mewn rhai amgylchiadau neu yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

Ar 23 Mehefin 2016, cyhoeddodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd Ddatganiad Ysgrifenedig yn gofyn i'r Comisiwn ailgychwyn ei raglen adolygu etholiadol 10 mlynedd. Byddai gan y rhaglen amserlen newydd wedi'i blaenoriaethu, gyda disgwyliad y byddai pob un o'r 22 adolygiad etholiadol yn cael eu cwblhau mewn pryd i'r trefniadau newydd gael eu rhoi ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.

3.  Adolygiadau o Ffiniau ac Etholaethau

Dros amser, oherwydd newidiadau yn y boblogaeth, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i ffiniau ardaloedd cymunedol neu i’r trefniant etholiadol yn rhai o’r 22 prif ardaloedd cyngor yng Nghymru neu ym mhob un ohonynt. Gall y Comisiwn wneud argymhellion ar nifer o faterion, gan gynnwys y nifer briodol o aelodau etholedig ar gyfer pob prif gyngor, ffiniau wardiau etholiadol ac a ddylai ward fod yn aml-aelod ai peidio.

Gall y Comisiwn wneud argymhellion ar drefniadau etholiadol i Weinidogion Cymru y mae'n teimlo sydd er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae hyn wedi ei nodi yn Adran 21(3)  o’r Ddeddf. Yn ei ddogfen Adolygiadau Etholiadol: Polisi ac Arfer, mae'r Comisiwn yn nodi:

Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â’r ystyriaethau a osodir allan yn y ddeddfwriaeth sy’n nodi bod yn rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau bod “yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly”.

Mae'r ddogfen yn mynd ymlaen i ddweud:

Bydd y Comisiwn yn ceisio darparu’r lefel orau o gydraddoldeb etholiadol ar gyfer pob ardal dan sylw a bydd yn cymryd pob achos yn ôl ei deilyngdod. Mae’r Comisiwn o’r farn y gellir cyfiawnhau gwyro o’r gymhareb gyfartalog ar gyfer y cyngor dim ond gyda thystiolaeth eglur o ffactorau cydbwysol eraill, megis cysylltiadau lleol neu ystyriaethau perthnasol eraill..

Bydd y rhaglen bresennol o adolygiadau etholiadol yn ceisio cyflwyno argymhellion ar gyfer pob un o’r 22 prif ardaloedd Cyngor i Weinidogion Cymru, i gael eu gweithredu gydag addasiadau, neu hebddynt, mewn pryd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.

Mae'r ffordd y mae'r Comisiwn yn cynnal adolygiad etholiadol yn cael ei ddiffinio gan y Ddeddf; trwy ei ddogfen Adolygiadau Etholiadol: Polisi ac Arfer; a thrwy gyfarwyddiadau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Mae canllawiau'r Comisiwn ar gyfer adolygiadau etholiadol yn nodi'r gweithdrefnau a'r dull y mae'n bwriadu eu mabwysiadu mewn perthynas ag adolygiadau. Mae'r canllawiau hefyd yn esbonio sut mae'r Comisiwn yn ystyried mater y nifer briodol o aelodau etholedig a nodwyd ar gyfer pob prif gyngor. Mae llyfryn ar wahân ar ei Bolisi MeintiauCynghorau.

4.  Camau gweithredu’r Senedd

Mae gorchmynion a rheoliadau a wneir o dan adrannau 37 i 39, a 43 o Ddeddf 2013 (ac eithrio adran 37(1) a 41(1)), yn ddarostyngedig i'r gofynion a'r gweithdrefnau a nodir yn yr adrannau hynny ac adrannau cysylltiedig yn unig. Yn ymarferol, yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw y gellir meddwl am y rhain fel offerynnau statudol ‘dim gweithdrefn’ ac, o'r herwydd, nid ydynt yn destun gwaith craffu gan y Senedd trwy naill ai'r weithdrefn negyddol neu gadarnhaol.

Fodd bynnag, dylid nodi bod y gweithdrefnau penodol a nodir yn yr adrannau perthnasol yn gosod nifer o ofynion math craffu fel ymgynghori â phartïon penodedig, terfynau amser, ac os ydynt yn cael eu gwneud gan rywun heblaw Llywodraeth Cymru, cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Felly bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu argymhellion y Comisiwn trwy Orchymyn, naill ai heb ei addasu neu gydag addasiad - neu beidio eu gweithredu o gwbl,  yn dilyn cyfnod o gyflwyno sylwadau.

5.  Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae'n bwysig bod pob adolygiad yn dilyn y broses statudol a bod cyfanrwydd y broses yn cael ei gadw. Rwy'n cael gohebiaeth yn rheolaidd mewn cysylltiad â'r adolygiadau sy'n cael eu cynnal ac er nad yw'n bosibl eu hateb yn fanwl, mae'r pwyntiau a godir yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am bob un o'r argymhellion ym mhob un o'r adroddiadau. 

Er fy mod yn deall pam y byddai unigolion yn ceisio mynd ar drywydd deisebau o dan yr amgylchiadau hyn, rwy'n pryderu y gallai hyn ddod yn llwybr cynrychiolaeth arferol sy'n digwydd ochr yn ochr â'r broses gyfreithiol sefydledig.

Dechreuodd cyfnod statudol o chwe wythnos ar gyfer cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar 16 Mehefin 2020, gan ddod i ben ar 28 Gorffennaf 2020.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.